Cynrychiolir Cymuned Llandysilio-go-go gan 11 aelod etholedig. Fel y digwydd y mae un ohonynt hefyd yn aelod Sirol dros ward Llandysilio-go-go sydd yn cwmpasu Cymuned Llanwchaern yn ogystal. Mae dyletswyddau y Cyngor Cymuned yn eang iawn a’i brif bwrpas ydy sicrhau fod y Gymuned yn cael llais mewn materion sydd yn effeithio ar yr ardal. Cynhelir cyfarfodydd misol naill yn Festri Capel Pisgah neu Festri Capel Nanternis. Cyflogir clerc rhan amser er mwyn delio gyda’r ochr weinyddol a derbynnir praesept blynyddol oddi wrth y Cyngor Sir er mwyn ariannu gwaith y Cyngor.
Rhestr o Gynghorwyr Llandysilio-go-go
Bryan Davies
Gareth Evans
Mary Davies
Cen Llwyd
Pît Dafis
Gareth Lloyd
Cecil Jones
Alun Evans
Ann Harris
Aled Dafis
Cynghorydd Sir: Gareth Lloyd
Clerc: Shân Gwyn